Lleoliad:
Fideo Gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 7 Mai 2020
Amser:
09.00 -
12.17
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6198
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Dai Lloyd AS (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AS Jayne Bryant AS Angela Burns AS Lynne Neagle AS David Rees AS |
Tystion: |
Dr Tracey Cooper, Iechyd Cyhoeddus Cymru Dr Quentin Sandifer, Iechyd Cyhoeddus Cymru Dr Giri Shankar, Iechyd Cyhoeddus Cymru Mario Kreft, Fforwm Gofal Cymru Mary Wimbury, Fforwm Gofal Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Sarah Beasley (Clerc) Claire Morris (Ail Glerc) Lowri Jones (Dirprwy Glerc) Amy Clifton (Ymchwilydd) Dr Paul Worthington (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru.
2.2 Cytunodd Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddarparu gwybodaeth bellach ynghylch ei ragamcanion ar gyfer cyflenwi profion Covid-19.
3.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig o dan reol sefydlog 17.42(ix) i wahardd y cyhoedd o eitem 4 y cyfarfod heddiw.
4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Fforwm Gofal Cymru.
6.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig o dan reol sefydlog 17.42(ix) i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
8.1 Cytunodd y Pwyllgor i gais Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i gynnwys materion chwaraeon fel rhan o'r gwaith y mae'r Pwyllgor yn ei wneud ar Covid-19.